Mae BAWSO yn cefnogi pobl o gefndiroedd Du a Lleiafrifoedd Ethnig y mae cam-drin domestig a mathau eraill o gam-drin yn effeithio arnynt, gan gynnwys Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod, Priodas dan Orfod, Masnachu Pobl a Phuteindra.
Ar hyn o bryd mae BAWSO yn cynnal 25 o brosiectau sy'n cefnogi dros 6,000 o bobl bob blwyddyn yng Nghymru trwy ddarparu llochesau pwrpasol, tai diogel, a Rhaglen Allgymorth ac Ailsefydlu a Rhaglen Cymorth Symudol helaeth. Rydym yn darparu cymorth, cyngor a gwybodaeth o'n swyddfeydd yng Nghaerdydd, Merthyr Tudful, Casnewydd, Abertawe a Wrecsam.