Mae Gwasanaethau Hyfforddiant Bawso yn darparu hyfforddiant mewnol i staff a gwirfoddolwyr Bawso wrth iddo geisio gwella gwasanaethau a dilyniant gyrfa. Mae ein hyfforddiant wedi’i achredu gan DPP ac yn darparu hyfforddiant allanol sydd wedi’i gynllunio i gynyddu gwybodaeth gweithwyr proffesiynol ac ymarferwyr yn y llywodraeth, asiantaethau statudol ac mewn sefydliadau trydydd sector. Mae Bawso yn hyfforddi staff yn yr Heddlu, Tân ac Achub, staff y GIG, meddygon teulu, gweithwyr cymdeithasol, athrawon a gweision sifil.
Mae Bawso yn darparu hyfforddiant yn y meysydd canlynol:
- Cam-drin domestig o safbwynt du a lleiafrifol
- Deall trais ar sail anrhydedd
- Deall anffurfio organau cenhedlu benywod
- Deall priodas dan orfod
- Deall arferion diwylliannol niweidiol
- Nodi caethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl
- Cefnogi dioddefwyr heb unrhyw hawl i arian cyhoeddus
- Amrywiaeth ddiwylliannol – goblygiadau a gwerth
Hyfforddiant pwrpasol ac wedi'i deilwra
Rydym yn darparu hyfforddiant ar gais cwsmer. Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r ffurflen isod.