Mae Bawso yn darparu gwasanaethau atal, amddiffyn a chymorth ymarferol ac emosiynol i Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (BME) a dioddefwyr mudol Cam-drin Domestig, Trais Rhywiol, Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod, Priodas dan Orfod, Trais ar Sail Anrhydedd, Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl.
Mae gwasanaethau’n cynnwys Llinell Gymorth 24 awr, cymorth ymyrraeth mewn argyfwng, eiriolaeth a chyngor, mynediad at gymorth a gwasanaethau statudol, gwasanaethau allgymorth a chymunedol, llety diogel mewn llochesi a thai diogel, a rhaglenni grymuso goroeswyr ar gyfer atgyfeiriadau o bob rhan o’r DU. .