Ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos

Ailfrandio a Gwefan Newydd

Gwefan a Logo

Rydym wedi bod yn gweithio’n ddiflino y tu ôl i’r llenni i ddod â gwefan ar ei newydd wedd i chi i gyd: ein partneriaid, defnyddwyr gwasanaeth, y rhai sy’n dymuno’n dda, staff a ffrindiau. Rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod Bawso, o 24 Mawrth 2022, yn lansio gwefan ryngweithiol well, ynghyd â nodweddion newydd i wella profiad y defnyddiwr.

Beth sydd wedi newid?

Bydd ein gwefan newydd yn fwy rhyngweithiol, ffres a chyfoes â thueddiadau cyfredol a bydd ganddi ddolenni uniongyrchol i'n cyfrifon Cyfryngau Cymdeithasol; bydd hyn yn galluogi ein cynulleidfa i ryngweithio â’n sefydliad mewn amser real a chodi ymwybyddiaeth o Bawso yn y gymuned leol, ledled Cymru, y Deyrnas Unedig a ledled y byd. 

Rydym wedi rhoi nodweddion diogelwch digidol newydd ar waith i gadw gwybodaeth staff a rhanddeiliaid fel ei gilydd yn ddiogel ac wedi’u diogelu ar-lein. Bydd ein nodweddion diogelwch newydd yn fwy pwerus nag offer a systemau blaenorol sydd ar waith i gynorthwyo'r sefydliad i gynnal diogelwch digidol pawb. 

Y Logo Newydd

Rydym wrth ein bodd i ddadorchuddio ein hunaniaeth brand newydd, gan arddangos esblygiad ein cwmni ers ei sefydlu ym 1995. Er bod hwn yn newid aruthrol, nid yw ein credoau craidd wedi newid. Bellach mae gan Bawso logo newydd sy’n cynrychioli’n well ein gwaith a’r cymunedau amrywiol rydym yn gweithio gyda nhw ac yn eu cefnogi.

Diolchiadau

Ni fyddai ein gwefan newydd, newid seilwaith TG a mewnrwyd newydd sbon wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth ein partneriaid. Hoffem felly ddiolch o waelod calon i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder am ariannu’r gwaith hwn drwy Comic Relief. Rydym am ddiolch i'n partneriaid, y prosiect DOT, a Five Naw am y cymorth technegol gwerthfawr y maent wedi'i roi i ni trwy gydol y datblygiad hwn.  

Dymunwn hefyd gydnabod gwaith diflino ein tîm Bawso: Arweinydd Prosiect ITARIAN, Helida Ramogi (Pennaeth Sicrhau Ansawdd a Chydymffurfiaeth) gyda chefnogaeth Franca Muratore (Rheolwr Gwasanaethau Cydweithredol), sydd wedi cyflawni’r prosiect mewn chwe mis.  

Rydym yn gobeithio y byddwch i gyd yn ymweld â ni ar-lein yn rheolaidd i weld y gwasanaethau rydym yn eu cynnig gan gynnwys cyfleoedd i eistedd ar ein bwrdd, gwirfoddoli gyda ni, codi arian i ni, gweithio i ni a chofrestru fel ein ffrindiau neu hyrwyddwyr.

Diolch!

Diolch Yn Fawr

Rhannu: