Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ddiwrnod byd-eang sy'n dathlu llwyddiannau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod. Mae'r diwrnod hefyd yn nodi galwad i weithredu ar gyfer cyflymu cydraddoldeb menywod.
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod wedi digwydd ers ymhell dros ganrif, gyda'r cynulliad cyntaf ym 1911 yn cael ei gefnogi gan dros filiwn o bobl. Heddiw, mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn perthyn i bob grŵp ar y cyd ym mhobman. Nid yw Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn benodol i wlad, grŵp neu sefydliad.
Eleni dathlodd Bawso Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched ar yr 8feded o Fawrth. Cawsom ddigwyddiad ar-lein gydag aelodau o staff o bob rhan o Bawso, oherwydd Covid 19. Mae'r pandemig wedi newid y ffordd yr ydym yn rhyngweithio ac yn cynnal digwyddiadau, fodd bynnag, ni wnaethom adael i hyn lesteirio ein rhyngweithio a'n cyfle i rannu.
Fel sefydliad amlddiwylliannol, anogwyd pawb i wisgo eu gwisg genedlaethol a gwneud pryd sy'n gyfystyr â'u gwlad. Cafodd pawb gyfle i rannu o ble maen nhw’n dod, siarad am eu bwyd a’u gwisg genedlaethol. Roedd y digwyddiad yn hwyl ac fe roddodd gyfle i ni gyd ddod i adnabod ein gilydd a chymdeithasu. Cafodd cydweithwyr hefyd gyfle i rannu’r BIAS y maent wedi’i wynebu yn y gymuned, yn y gweithle ac yn y gymdeithas gyfan. Yn unol â'r thema, buom yn trafod sut y gallwn adeiladu ein gwytnwch, #breakthebias a chodi ein gilydd fel menywod.
“Dewrder yw’r pwysicaf o’r holl rinweddau oherwydd heb ddewrder, ni allwch ymarfer unrhyw rinwedd arall yn gyson.”
― Maya Angelou
Mae pawb rydyn ni'n gweithio gyda nhw neu'n eu cefnogi yn dangos dewrder bob dydd ac yn wynebu eu heriau yn uniongyrchol. Gyda'n gilydd gallwn #breakthebias.