Ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos

Newid sy'n para wedi'i ariannu gan Sefydliad Esmee Fairbairn    

Mae’n bleser gennym gyhoeddi cyllid newydd gan Sefydliad Esmee Fairbairn tuag at waith polisi a dylanwadu. Mae llawer o newidiadau’n digwydd o fewn y dirwedd ddeddfwriaethol yn y DU sy’n cael effaith uniongyrchol ar ddioddefwyr cam-drin a thrais benywaidd o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig. Mae’r cyllid yn cefnogi gwaith Bawso gan sicrhau bod lleisiau goroeswyr yn cael eu clywed a’u hymgorffori mewn datblygu polisi ac arfer cyfredol.  

Bydd y cyllid hefyd yn galluogi Bawso i barhau i hyrwyddo ac eiriol dros hawliau menywod, dioddefwyr cam-drin domestig, trais a chamfanteisio. Bydd yn cyfrannu at arfer presennol drwy godi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig a thrais o safbwynt lleiafrifoedd ethnig sy’n gwella gwybodaeth ymhlith darparwyr gwasanaethau, gan eu galluogi i ymyrryd mewn modd amserol a darparu gwasanaeth sy’n diwallu anghenion cymorth dioddefwyr a goroeswyr. Byddwn hefyd yn gweithio gyda phrifysgolion ar ymchwil sy'n rhoi anghenion dioddefwyr a defnyddwyr gwasanaeth wrth wraidd ymchwil a datblygu polisi.  

Mae cyllid yn y gorffennol wedi cyfrannu at waith a arweiniodd at gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru tuag at gefnogi dioddefwyr cam-drin heb unrhyw hawl i arian cyhoeddus, cyhoeddi adroddiad ymchwil ar ddeall priodas dan orfod o fewn cymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru ymhlith gwaith arall a gyflawnwyd ar y prosiect.  

I weld copi o'n hadroddiad ymchwil, os gwelwch yn dda dilynwch y ddolen yma a dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael mwy o wybodaeth am ein gwaith. 

Rhannu: