Ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos

Rhedeg am Bawso yn Hanner Marathon Caerdydd 2023, dydd Sul 1 Hydref

#Miles4Change

Ymunwch â'n tîm a helpwch ni i godi arian i Bawso. Drwy gymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd 2023, byddwch nid yn unig yn herio’ch hun ac yn profi’r wefr o groesi’r llinell derfyn, ond hefyd yn gwneud gwahaniaeth ym mywydau’r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.

Rydym yn croesawu rhedwyr o bob lefel a chefndir, ac yn darparu cefnogaeth ac anogaeth trwy gydol eich taith hyfforddi a chodi arian. Fel tîm, byddwn yn gweithio gyda’n gilydd tuag at ein nod o godi cymaint o arian â phosibl i Bawso, a chodi ymwybyddiaeth o’r gwaith hollbwysig rydym yn ei wneud.

Yn ogystal â’r boddhad o gyfrannu at achos teilwng, byddwch hefyd yn derbyn crys tîm, mynediad at awgrymiadau ac adnoddau hyfforddi, tylino ar ôl y ras (ger Lolfa Caerdydd), a llawer mwy!!

Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i gael effaith wirioneddol yn ein cymuned a chyflawni eich nodau ffitrwydd personol ar yr un pryd. Cofrestrwch heddiw ac ymunwch â'n tîm ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd 2023.

Hanner Marathon Caerdydd gan Mercedes

Cwblhewch y ffurflen ganlynol i Run 4 Bawso!

Rhannu: