Roedd Bawso yn falch o fynychu seremoni wobrwyo fawreddog EMWWAA a oedd yn arddangos gwaith rhagorol nifer o fenywod BME ledled y wlad.
Uchafbwynt y noson oedd cydnabyddiaeth ein rheolwr cyllid, Ramatoulie Manneh a dderbyniodd wobr yn y categori ‘hunan-ddatblygiad’. Mae'r cyflawniad hwn yn amlygu datblygiad proffesiynol rhagorol Ramatoulie ac yn tanlinellu ymrwymiad Bawso i feithrin talent a grymuso ei weithwyr.
Roedd y digwyddiad hefyd yn anrhydeddu dau unigolyn eithriadol a dderbyniodd wobrau yn y categori 'agenda trais yn erbyn menywod'. Ein Cynghorydd Personol Annibynnol Edna Sackeyfio a Phennaeth sicrhau ansawdd a chydymffurfiaeth, Helida Ramogi.
Yn ogystal, enillodd y Pennaeth Gwasanaethau Cenedlaethol dros dro Zaira Munsif glod dwbl, gan ennill gwobr yn y categori 'agenda trais yn erbyn menywod' a derbyn gwobr fawreddog 'Gwobr Rhodri Morgan.'
Mae Bawso yn estyn llongyfarchiadau gwresog i bawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol a’r enillwyr a ddangosodd ragoriaeth, gwytnwch a phenderfyniad ar gyfer byd mwy cyfiawn. Mae eu cyfraniadau yn sefyll fel esiamplau o ysbrydoliaeth i fenywod a merched BME ym mhobman.