Mae Bawso yn falch iawn o fod wedi ennill ardystiad ISO (Sefydliad Safonau Rhyngwladol) fel yr archwiliwyd gan y Biwro Asesu Prydeinig ym mis Mai 2022.
Ardystiwyd Bawso am:
- ISO 9001: 2015: System Rheoli Ansawdd.
- ISO 14001: 2015: System Rheoli Amgylcheddol.
- ISO 45001: 2018: Systemau Rheoli Iechyd a Diogelwch.
Yn ein cenhadaeth barhaus fel y prif ddarparwr ac eiriolwr ar gyfer gwasanaethau arbenigol ar gyfer cymunedau Du a Lleiafrifoedd Ethnig (BME) yr effeithir arnynt gan Gam-drin, Trais a Chamfanteisio yng Nghymru, rydym bob amser yn edrych ar ffyrdd o wella’r hyn rydym yn ei gynnig i’n cleientiaid a’n rhanddeiliaid a chysoni ein hunain i safonau sy’n rhoi’r cyfle inni fod yn fwriadol, yn systematig, ac yn gyson wrth wella ein gwasanaethau, ac felly, ein harlwy ehangach.
Mae ardystiad ISO yn arwydd o arfer gorau rhyngwladol a chenedlaethol yn ogystal ag ymddiriedaeth a hyder i bob sefydliad sy'n ei gyflawni. Rydym yn falch o fod wedi cyrraedd y meincnod hwn oherwydd ei fod yn dangos bod y prosesau a'r gweithdrefnau y mae Bawso yn eu defnyddio i ddarparu ein gwasanaethau arbenigol yn gadarn, yn gyson ac yn systematig.
Dywedodd Wanjiku Mbugua- Ngotho, Prif Weithredwr Dros Dro:
“Mae’r gwaith caled o gyflawni meincnod ardystio ISO yn seiliedig ar ddyheadau Bawso i wella gwasanaethau’n barhaus. Ar lefel uniongyrchol, mae cydweithwyr yn sicr o seilio eu dyletswyddau gweithredol a strategol o ddydd i ddydd ar fframwaith safonau cadarn nid yn unig nawr, ond yn barhaus drwy ei ddefnyddio i fesur canlyniadau a gwaith yn y dyfodol.
Diolch yn fawr a llongyfarchiadau i Dîm Bawso am eu cymorth i gyrraedd y garreg filltir hon.”