Mae Bawso yn darparu llety lloches pwrpasol i fenywod a phlant BME sy’n ffoi rhag Cam-drin Domestig a mathau eraill o Drais yn Erbyn Menywod.
Ar hyn o bryd mae Bawso yn rhedeg 5 lloches bwrpasol a 2 dŷ diogel ledled Cymru. Ariennir y ddarpariaeth hon gan y Grant Cynnal Tai. Mae ein Llochesi a’n tai diogel yn darparu gofod diogel i ddefnyddwyr gwasanaeth adlewyrchu a gwneud penderfyniadau am eu dyfodol. Mae gan bob defnyddiwr gwasanaeth weithiwr allweddol i weithio'n agos gyda nhw i ddiwallu eu hanghenion cymorth cytûn. Mae'r llochesau arbenigol yn ystyried anghenion diwylliannol, crefyddol ac ieithyddol.
Mae ein cymorth seiliedig ar lety yn cynnwys y canlynol:
- Darparu ystafell weddi / dawel i ddefnyddwyr gwasanaeth ymarfer eu crefydd / cred
- Cegin ar wahân ar gyfer anghenion dietegol amrywiol hy Halal, Kosha, Llysieuol, Fegan
- Cefnogaeth a chymorth unigol seiliedig ar anghenion gyda:
- Asesu risg, rheoli risg a diogelu
- Cynyddu incwm, cael mynediad at fudd-daliadau a delio â dyledion
- Y system cyfiawnder troseddol, ysgariad a chael gwaharddebau sifil
- Mewnfudo, cyswllt plant a materion cyfreithiol eraill
- Cyrchu gwasanaethau iechyd
- Llety symud ymlaen a chymorth adsefydlu
- Cyfleoedd hyfforddi datblygiad personol
- Cwnsela, sesiynau grŵp therapiwtig
- Cael mynediad i sesiynau ymwybyddiaeth cam-drin domestig gyda'r nod yn y pen draw o atal ail-erledigaeth